Swyddog cludiant yr ysgol

Cyflwyniad
Mae cludiant yr ysgol yn wasanaeth statudol i blant a chanddyn nhw hawl, yn ôl y gyfraith, i gael eu cludo rhwng y cartref a'r ysgol.  Mae gyda nhw'r hawl honno am nad ydyn nhw'n byw yn agos i ysgol addas neu ysgol y dalgylch neu na allen nhw gael addysg fel arall o achos anabledd neu anghenion penodol eraill.  Mewn rhai ardaloedd, adran addysg y cyngor sy'n trefnu cludiant yr ysgol.  Mewn ardaloedd eraill, uned gludiant sy'n cynnal y gwasanaeth yn ogystal â gwasanaethau cludiant eraill y cyngor megis cludiant cyhoeddus, cludiant gwasanaethau cymdeithasol a chludiant i'r ifainc a chymunedau.  Fel arfer, cerbydau a gyrwyr preifat sy'n cael eu defnyddio i gynnal y gwasanaeth, er bod hyn a hyn o fysiau gan rai cynghorau lleol.  Mae rôl hanfodol i swyddogion cludiant yr ysgol o ran gofalu bod gwasanaeth cludo plant yr ysgol yn un diogel ac effeithlon.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r swyddogion yn gweithio mewn tîm, gan ganolbwyntio naill ai ar ddisgyblion ysgolion y brif ffrwd neu'r rhai ac arnyn nhw anghenion addysgol ychwanegol.  Fel arfer, byddan nhw'n gweithio mewn swyddfa er y gallai fod angen ymweld â rhai safleoedd i fonitro gwasanaethau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion cludiant yr ysgol yn cyflawni amrywiaeth helaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys:

  • Cynllunio - ar ddechrau pob 'tymor' cludo (Chwefror - Mai), bydd swyddogion yn astudio gwybodaeth mae'r ysgolion wedi'i chyflwyno a cheisiadau gan ddisgyblion i ofalu bod gyda nhw hawl i ddefnyddio'r gwasanaeth.  Erbyn diwedd y broses, fe fyddan nhw'n gwybod yn fras faint o ddisgyblion sydd i'w cludo fel y gallan nhw lunio cytundebau ar gyfer yr amryw deithiau a'u rhoi nhw ar gynnig.  Fe fydd y ceisiadau'n cyrraedd o hyd ym mis Gorffennaf a mis Awst, a bydd y swyddogion mewn sefyllfa i gau pen y mwdwl ar fanylion y teithiau erbyn dechrau tymor yr ysgol fis Medi.  Byddan nhw'n argraffu'r tocynnau i'w rhoi i'r disgyblion priodol.
  • Gorchwylion bob dydd - gofalu bod rhwydwaith cludo addas a dibynadwy yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.  Bydd swyddogion yn trefnu cludiant ar gyfer ymgeiswyr newydd, plant sydd wedi symud neu'r rhai mae'u hanghenion wedi newid.  I wneud hynny, rhaid addasu teithiau cyfredol, sefydlu rhai newydd, trefnu tocynnau cludiant cyhoeddus neu ganiatáu lwfans petrol yn ôl yr angen.  At hynny, gallai fod eisiau cael gafael ar gerbydau i gymryd lle rhai sydd wedi torri i lawr, trin a thrafod sefyllfaoedd a chwynion ac, ambell waith, ymateb i ddamweiniau - gan ofalu bod pawb yn ddiogel ac yn bresennol.  Rhaid gwirio cefndir staff sy'n ymwneud â gwasanaethau cludo plant trwy Swyddfa'r Cofnodion Troseddol i ofalu eu bod yn addas.  Rhaid gwirio manylion cerbydau sy'n cael eu defnyddio, megis tystysgrifau addasrwydd i'r ffordd fawr ac yswiriant, hefyd.
  • Gwaith maes megis ymweld ag ysgolion a chanolfannau cwmnïau cludo, teithio mewn bysiau, siarad â rhieni yn ystod nosweithiau agored yr ysgol a chysylltu ag amryw awdurdodau eraill megis yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG.  
  • Dyletswyddau gweinyddu megis llunio deunydd cyhoeddusrwydd am gludiant yr ysgol, nodi ffynonellau arian, cynnal ymchwil, cyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol i gyrff allanol a monitro effeithiolrwydd mentrau newydd.

Yn ogystal â'r gorchwylion hynny, bydd swyddogion yn ymdrin â gohebiaeth trwy'r post ac ebost, yn treulio tipyn o amser ar y ffôn ac yn mynd i gyfarfodydd yn ôl yr angen.  Byddan nhw'n cwrdd â phobl o sawl lliw a llun megis plant, rhieni, athrawon, contractwyr cludiant, gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr a swyddogion cludiant cynghorau eraill.

Medrau a diddordebau
Mae eisiau'r canlynol ar swyddogion cludiant yr ysgol:

  • medrau cyfathrebu rhagorol ar bapur ac ar lafar fel ei gilydd;
  • agwedd agored a darbwyllol ynghyd â'r gallu i siarad â phobl o sawl cefndir;
  • aeddfedrwydd, cymhelliant cryf a brwdfrydedd;
  • medrau trefnu/gweinyddu da a'r gallu i drin a thrafod cyfrifiaduron.

Bydd angen trwydded yrru fel arfer, hefyd.

Meini prawf ymgeisio
Er nad oes cymwysterau academaidd penodol, mae angen cefndir addysgol da megis o leiaf pedwar TGAU (A*-C).  Gall ymgeiswyr ddod o sawl cefndir.  Bydd gan rai radd prifysgol mewn rhyw bwnc, neu Dystysgrif/Diploma Wladol Uwch.

  • I astudio ar gyfer Tystysgrif/Diploma Wladol Uwch, bydd angen pedwar TGAU (A*-C) ac un Safon Uwch neu gymwysterau cyfwerth, fel arfer.
  • I astudio ar gyfer gradd prifysgol, bydd angen pum TGAU (A*-C) a dwy Safon Uwch neu gymwysterau cyfwerth, fel arfer.
  • Bydd gan ymgeiswyr eraill gymwysterau/profiad perthnasol ym meysydd rheoli, gweinyddu a gwaith ysgrifenyddol.
  • Mae modd i swyddogion astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Gwladol megis:
    • Rheoli, lefelau 3 a 4: trwy Gytundeb Dysgu am Reoli dan ofal Transfed.
    • Cymorth Technegol i Gludiant, lefel 3.
    • Cynllunio ar gyfer Cludiant, lefelau 4 a 5.
    • Diogelwch y Ffyrdd, lefelau 3 a 4: trwy Sefydliad y Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

Mae modd astudio ar gyfer gradd yn y lleoedd canlynol (darllenwch brosbectws pob un i ofalu bod y cwrs yn berthnasol i'r yrfa a hoffech chi): Prifysgol Aston, Prifysgol John Moores (Lerpwl), Prifysgol Napier, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Aberplym a Phrifysgol Ulster.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai swyddogion profiadol gael eu dyrchafu'n rheolwyr, symud i gyngor arall neu ymuno â chwmni preifat (cludiant cyhoeddus neu ysbytai, er enghraifft).  Ar y llaw arall, gallen nhw ddefnyddio eu medrau a'u profiad yn adrannau eraill y cyngor megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, yr amgylchedd a chynllunio.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Swyddogion Cydlynu Cludiant (ATCO): www.atco.org.uk
Sefydliad Breiniol Logisteg a Thrafnidiaeth: www.ciltuk.org.uk
GoSkills www.goskills.org
Sefydliad Priffyrdd a Chludiant: www.iht.org

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links