Cyflwyniad
Pan fyddwch allan yn cerdded yng nghefn gwlad, ydych chi erioed
wedi ystyried pwy benderfynodd i ble y dylai'r llwybrau arwain, pwy
sy'n sicrhau eu bod yn glir o lystyfiant a phwy drefnodd i'r ardal
bicnic gael ei lleoli mewn man penodol? Mae'n debygol mai swyddog
cefn gwlad oedd yn gyfrifol am yr holl bethau hyn. Ar
hyn o bryd mae tua 5,000 o swyddogion cefn gwlad (neu goetiroedd)
yn gweithio yn adrannau gwasanaethau amgylcheddol awdurdodau
lleol. Maent yn cefnogi ac yn helpu rheolwyr cefn gwlad i
reoli parciau gwledig, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, ardaloedd
pysgota a hawliau tramwy cyhoeddus.
Y prif nod yw annog pobl i ymweld â chefn gwlad, hyrwyddo
ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd naturiol ac, ar yr un
pryd, diogelu cynefinoedd naturiol planhigion ac anifeiliaid.
Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion cefn gwlad yn treulio tua hanner yr wythnos waith
mewn swyddfa neu mewn cyfarfodydd, a'r hanner arall allan yn yr
awyr agored. Mae angen ymweld â safleoedd i gynnal arolygon neu i
gwrdd â pherchnogion tir, er enghraifft. Mae'r rhain yn cael
eu cynnal yn ôl yr angen, boed law neu hindda; gall swyddogion cefn
gwlad ganfod eu hunain yng nghanol gwyntoedd cryfion, glaw trwm neu
eira.
Gweithgareddau Dyddiol
Mae gwaith swyddog cefn gwlad yn amrywio o gyngor i gyngor.
Gallai'r canlynol fod ymysg y dyletswyddau nodweddiadol:
- Edrych ar sut i ddatblygu ardaloedd o gefn gwlad unigol. Er
enghraifft, a ddylai coetir gael ei ddatblygu i ddenu ymwelwyr, neu
a ddylid ei ddiogelu i gynnal rhywogaethau o fywyd
gwyllt/planhigion penodol?
- Rheoli ymweliadau â chefn gwlad - ceisio atal difrod i'r tir
drwy sicrhau bod digon o arwyddion yn dangos y llwybrau cerdded,
bod digon o finiau ar gael, a bod mannau parcio ar gael.
- Addysgu pobl ar sut i ofalu am gefn gwlad, drwy daflenni,
byrddau gwybodaeth ac ati.
- Ymchwilio a llunio adroddiadau a fydd yn helpu i lunio polisïau
cadwraeth hirdymor yr awdurdod.
- Siarad â landlordiaid a rhoi cyngor iddynt ar sut i reoli eu
tir mewn ffyrdd sydd o fudd i fywyd gwyllt/cefn gwlad.
- Monitro ansawdd yr amgylchedd naturiol - archwilio safleoedd,
cynnal arolygon, trefnu arbrofion gwyddonol.
- Trefnu a goruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw parciau gwledig
ac ardaloedd cadwraeth.
- Gwahodd ysgolion i gymryd rhan mewn 'dehongliadau amgylcheddol'
- chwilota mewn pyllau, edrych am fywyd gwyllt, adnabod
coed.
- Cynnig cyngor i bobl sydd am gynnal eu prosiectau cadwraeth eu
hunain.
- Ymdrin â chwynion - ynghylch llystyfiant yn effeithio ar
hawliau tramwy cyhoeddus, er enghraifft.
- Cwrdd ag asiantaethau fel yr Asiantaeth Cefn Gwlad i drafod
cynlluniau cadwraeth.
- Cwrdd â pherchnogion tir i drafod cynlluniau y bwriedir eu rhoi
ar waith yn agos at eu tir.
- Edrych ar geisiadau cynllunio a rhoi cyngor ar effeithiau
negyddol ffordd newydd, er enghraifft, ar gefn gwlad.
- Cyflwyno gwybodaeth lafar ar gefn gwlad i grwpiau lleol.
- Ymdrin â gwaith papur ac ysgrifennu adroddiadau.
Sgiliau a Diddordebau
Mae sgiliau cyfathrebu yn hanfodol. Mae swyddogion cefn
gwlad yn ymdrin â landlordiaid, swyddogion awdurdodau lleol eraill
a'r cyhoedd o ddydd i ddydd. Mae angen i swyddogion fod
yn hyderus a phendant, ond gan gydymdeimlo â barn
eraill. Mae pwyll a'r gallu i drafod yn bwysig.
Hefyd, mae angen i swyddogion cefn gwlad:
- fod yn drefnus, a meddu ar y gallu i gynllunio ymlaen llaw
- gallu ysgrifennu adroddiadau a'u cyflwyno mewn cyfarfodydd
- bod â diddordeb mewn gweithio gyda phlanhigion ac anifeiliaid
yn eu hamgylchedd naturiol, a brwdfrydedd dros wneud hynny.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ond, gan fod llawer o
gystadleuaeth am y swyddi, mae gan lawer o ymgeiswyr radd/diploma
cenedlaethol uwch. Ymysg y pynciau perthnasol mae gwyddorau
amgylcheddol, bioleg, arolygu, daearyddiaeth, ecoleg, rheoli cefn
gwlad/amgylcheddol.
Mae profiad drwy waith gwirfoddol neu waith dros dro yn
hanfodol. Gall fod yn bosibl dechrau mewn swyddi ymarferol lefel is
a gweithio'ch ffordd i fyny. Mae NVQ/SVQ mewn Cadwraeth
Amgylcheddol ar gael ar Lefelau 2 a 3.
Yn aml bydd angen trwydded yrru.
Cyfleoedd yn y dyfodol
Mae'r gystadleuaeth am swyddi ym maes cadwraeth yn uchel, felly
gorau po fwyaf o brofiad sydd gennych. Mae llawer o'r gwaith
corfforol sy'n gysylltiedig â rheoli cefn gwlad yn dymhorol ac
felly mae swyddi dros dro yn aml ar gael. Gall
swyddogion cefn gwlad sydd â'r cymwysterau gofynnol symud i fod yn
uwch swyddogion neu reolwyr cefn gwlad, gyda chyfrifoldeb am reoli
tîm o swyddogion a chyllideb.
Ceir hefyd gyfleodd mewn asiantaethau Llywodraethol, gan gynnwys
English Nature, yr Asiantaeth Cefn Gwlad, Treftadaeth Naturiol yr
Alban a Chyngor Cefn Gwlad Cymru; a chydag ymddiriedolaethau
elusennol fel y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Coed Cadw
a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Amgylcheddol www.the-environment-council.org.uk
Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.ccw.gov.uk
Lantra www.lantra.co.uk
The Conservation Volunteers www.tcv.org.uk
Y Sefydliad Ecoleg ac Amgylcheddol www.ieem.net
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.