Rheolwr cyfleusterau’r chwaraeon

Cyflwyniad
Mae chwaraeon a ffitrwydd yn elfennau pwysig o fywydau llawer o bobl, ac maen nhw'n dod yn fwyfwy poblogaidd.  Mae'r cyngor lleol yn cynnal canolfan hamdden neu chwaraeon yn y rhan fwyaf o drefi.  Gall y rheiny fod ar ffurf canolfan fechan ac ynddi gampfa neu un fawr lle mae popeth rhwng pwll nofio, llawr sglefrio a'r gwersi ffitrwydd diweddaraf.  A chithau'n rheolwr cyfleusterau chwaraeon, byddwch chi'n gyfrifol am ofalu bod popeth yn gweithio'n esmwyth yn ogystal â bodloni'r cyhoedd, trefnu a datblygu gwasanaethau newydd a gofalu eu bod yn hysbys ymhlith eich cwsmeriaid.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae rheolwr cyfleusterau chwaraeon yn gweithio yn swyddfa ei ganolfan mewn lle glân a chynnes.  Os ydych chi'n gyfrifol am reoli nifer o ganolfannau, bydd angen trwydded yrru arnoch chi yn ôl pob tebyg am y byddwch chi'n teithio o'r naill i'r llall, gan ofalu bod popeth yn gweithio'n dda a datrys unrhyw anawsterau.  Mae'n debygol y byddwch chi'n gweithio mewn dillad chwaraeon cyfforddus ac efallai y byddwch chi mewn gwisg unffurf fel eich staff - crys chwys, trwseri rhedeg a daps, er enghraifft.  Er y bydd eich staff yn gweithio shifftiau, mae'n fwy tebygol y byddwch chi'n gweithio yn ôl oriau arferol y cyngor - 37 yr wythnos.

Gweithgareddau beunyddiol
Ar ddechrau'r dydd, rhaid bwrw golwg ar bopeth ddigwyddodd tra oeddech chi bant - gan siarad â'r staff i glywed a oes angen datrys unrhyw broblem a cherdded trwy'r ganolfan i ofalu bod popeth yn lân, yn groesawgar ac yn effeithlon.  Ar ôl clywed am unrhyw broblemau, rhaid gofalu y bydd rhywun yn mynd i'r afael â nhw - naill ai chi neu'ch staff.  Ar ôl dychwelyd i'ch swyddfa, fe fyddwch chi'n trefnu gweddill y dydd.  Mae'n debygol y bydd nifer o reolwyr ar ddyletswydd ac, o bosibl, rheolwr arlwyo yn atebol i chi.  Felly, byddwch chi'n cael gair â nhw bob hyn a hyn i asesu'r cynnydd, datrys problemau a phennu blaenoriaethau.

Byddwch chi'n ystyried ac yn datblygu gwasanaethau newydd, gan eu trafod gyda'r gweithwyr priodol a chyflogi gweithwyr newydd lle bo angen.  Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod gorchwylion gweinyddu megis llenwi adroddiadau am ddamweiniau, cadw llygad ar arian mân, prosesu anfonebau i'w talu a chymharu costau staff â thargedau ariannol yn cael eu cyflawni, hefyd.  Yn rhan o'ch rôl, efallai y bydd gofyn ichi bennu cyllidebau a dyfeisio strategaethau marchnata - penderfynu pa fath o bobl yr hoffech chi eu denu a phennu'r ffordd orau o ennyn eu diddordeb.  Rhaid gofalu bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael.  Yn ôl pob tebyg, byddwch chi'n cydweithio ag un o staff adran gwasanaethau hamdden y cyngor i drefnu a chynnal achlysuron arbennig.

Yn ystod y dydd, byddwch chi'n sgwrsio gyda chwsmeriaid i hel eu sylwadau nhw am ansawdd y gwasanaethau a lefel y staff a'r cyfleusterau, a gofalu eu bod yn fodlon ar y modd rydych chi'n rheoli popeth.  Rhaid cadw llygad ar yr hyn sydd ar gael yn eich canolfan a gofalu eich bod yn cynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf i'r gymuned.
 
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • medrau trefnu da o ran rheoli'ch amser chi a rheoli'r ganolfan;
  • medrau arwain a rheoli, ynghyd â'r gallu i ysgogi a gwerthfawrogi staff;
  • diddordeb mewn pobl a'r gallu i gyfleu agwedd groesawgar;
  • manwl gywirdeb - rhaid i'r ganolfan fod yn lân ac yn ddiogel i'r cwsmeriaid;
  • gallu trin a thrafod ffigurau, cyllidebau a rhagolygon ariannol.

Meini prawf derbyn
Mae gan y rhan fwyaf o reolwyr cyfleusterau chwaraeon gymhwyster sy'n ymwneud â chwaraeon a hamdden er nad oes llwybr penodol i'r yrfa.  Mae digon o gyrsiau ar bob lefel a allai fod yn fan cychwyn ym maes rheoli cyfleusterau chwaraeon, megis:

  • cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol 'Hamdden a Thwristiaeth';
  • cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol lefelau 2 a 3 (mae rhai cynghorau'n cynnig prentisiaethau);
  • cymwysterau sylfaenol neu uwch Cyngor Busnes, Technoleg ac Addysg ynglŷn â hamdden a phynciau cysylltiedig;
  • cyrsiau gradd mewn pynciau megis 'Astudiaethau Chwaraeon a Hamdden', 'Astudiaethau Chwaraeon' a 'Rheoli Chwaraeon'.

Gallai cymhwyster ym maes ffitrwydd fod o fantais gan y byddwch chi'n atgyfnerthu cymwysterau academaidd â phrofiad ymarferol.  Unwaith eich bod yn rheolwr, bydd modd astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd ichi gael eich dyrchafu - naill ai'n rheolwr sy'n gyfrifol am ragor o ganolfannau neu'n rheolwr strategol yn swyddfeydd y cyngor.  Gallai fod cyfleoedd i reoli cyfleusterau chwaraeon preifat, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol: www.cimspa.co.uk
Skills Active: www.skillsactive.com
Chwaraeon Cymru: www.sportwales.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links