Cydlynydd sustemau gwybodaeth/meistr gwefannau

Cyflwyniad
Dyma swydd a welwch chi mewn unrhyw adran ac mewn awdurdodau o bob math.  Gan amlaf, yn adran y prif weithredwr mae swyddogion o'r fath yn gweithio, fodd bynnag.  Mae technoleg gwybodaeth yn helpu'r cyngor a'i staff i weithredu, ac mae rôl oruchwyliol i gydlynwyr (a elwir yn 'swyddogion' neu 'feistri gwefannau' weithiau) ym maes technoleg gwybodaeth.

Mae gan bob cyngor wefan i roi gwybod i'r bobl am wasanaethau yn ôl egwyddorion gwerth arian, effeithlonrwydd ac arbedion.  Mae gofyn statudol i bob cyngor gynnig ei wasanaethau trwy gyfrwng electronig bellach, hefyd.  I gael gwybod a ydych chi'n cael hawlio budd-daliadau, cewch chi fynd i gaban a chael yr wybodaeth berthnasol.  Mae sustem y cyfathrebu mewnol (y mewnrwyd) yr un mor bwysig hefyd, ac mae'r cydlynydd yn gyfrifol am y sustem honno.  Mae hyn - y dylunio a'r gweithredu - yn rhan o strwythur cyffredinol sustemau technoleg gwybodaeth.

Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser wrth gyfrifiadur, er bod rhaid teithio i gyfarfodydd ar safleoedd eraill y cyngor i drafod syniadau newydd a phrosiectau cyfredol.  Bydd angen mynd i gyfarfodydd cenedlaethol, hefyd.  Rhwng 37 a 40 awr yw'r wythnos safonol, a gallai fod oriau ychwanegol weithiau i gadw at amserlenni.  Efallai y bydd modd gweithio yn ôl oriau hyblyg.

Gweithgareddau beunyddiol
Llunio tudalennau'r wefan fydd eich prif orchwyl.  Hanfod y gwaith yw cyfarfod â 'chwsmeriaid' (aelod o'r tîm golygu neu swyddog o adran arall) i drafod syniadau newydd am olwg a lle tudalennau ar wefan y cyngor.  I'r diben hwnnw, bydd rhaid siarad ag arbenigwyr y we/technoleg gwybodaeth a chynorthwywyr gwybodaeth ynglŷn â'r canlynol:

  • yr hyn mae modd ei wneud o safbwynt technegol;
  • y diwyg mwyaf effeithiol a sut y bydd yn gweithredu;
  • a ddylech chi ddefnyddio fideos a thapiau sain;
  • cydblethu â gweddill y wefan a chysylltu â gwefannau eraill.

Fe fyddwch chi'n arwain tîm sy'n ymateb i ymholiadau, yn diweddaru tudalennau'r wefan ac yn cysylltu â chyrff lleol eraill (asiantaethau budd-daliadau, mudiadau cynghori dinasyddion ac ati) a phobl yr ardal ynglŷn â diwyg gwefan y cyngor a'r modd mae'n gweithio.  Byddwch chi'n gyfrifol am gynnal a chadw gwefan y cyngor a'r mewnrwyd.  Mae swyddogion yn atebol i'r rheolwyr perthnasol ac yn cael adborth am y modd mae'r sustemau'n gweithio, yn ogystal â chynghori pawb am yr hyn sy'n ymarferol ac anymarferol o ran gwefan.  Bydd rhaid gweithio yn ôl amserlenni mae pobl eraill wedi'u pennu.  A chithau'n arweinydd tîm, byddwch chi'n rheoli amryw brosiectau megis:

  • cabanau aml eu cyfryngau;
  • gwefannau teledu digidol;
  • ceisiadau ar y we am ganiatâd cynllunio.

Medrau a diddordebau
Gan fod byd technoleg gwybodaeth yn gyfnewidiol ei natur, rhaid ymaddasu yn ôl newidiadau er lles cwsmeriaid a meithrin medrau newydd yn gyflym.  Ar ben hynny, bydd angen:

  • medrau cyfathrebu da i helpu cwsmeriaid i ddeall manylion technegol;
  • gallu trin a thrafod ffigurau;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o sawl cefndir a statws;
  • medrau rheoli prosiectau;
  • manwl gywirdeb;
  • hoffi datrys problemau;
  • meddwl creadigol;
  • medrau rheoli;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm yn ôl amserlenni.

Meini prawf derbyn
Gallai profiad perthnasol fod yn bwysicach na chymwysterau academaidd, er y bydd disgwyl ichi fod wedi ennill o leiaf bedair TGAU (*A-C) gan gynnwys mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.  Mae cymwysterau ym maes astudio a dylunio cyfrifiadurol yn bwysig, hefyd.  Felly, bydd cefndir naill ai ym maes technoleg gwybodaeth neu ddylunio'n hanfodol.  Gallai profiad o reoli gwefan/mewnrwyd neu weithio'n swyddog cyfathrebu mewnol fod o gymorth mawr.  Er bod gan lawer o'r rhai sy'n dechrau ar y lefel hon radd neu uwch ddiploma genedlaethol, mae modd dechrau'n weithiwr dan hyfforddiant a chael eich dyrchafu maes o law.  Efallai y bydd modd bwrw prentisiaeth.  Gallai gweithiwr newydd a chanddo'r cymwysterau priodol ddisgwyl ennill dros £20,000 y flwyddyn yn ôl yr ardal.  Yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr mae'r cyflogau uchaf.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gan fod y maes hwn ar gynnydd, mae modd cael eich dyrchafu - er y bydd digon o bobl yn cystadlu am swyddi uwch, sy'n ymwneud â rhagor o gyfrifoldebau rheoli ac arwain staff yn y gorchwylion hyn a meysydd eraill megis dadansoddi sustemau.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
Computeach: www.computeach.co.uk
Computer Weekly: www.computerweekly.com
Computing: www.computing.co.uk
Medrau electronig y DG: www.e-skills.com
Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
Cymdeithas Rheoli Technoleg Gwybodaeth: www.socitm.gov.uk
Sefydliad Breiniol Technoleg Gwybodaeth: www.bcs.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links