Gweithredwr teledu cylch cyfyng (CCTV)

Cyflwyniad
Mae llawer o gynghorau'n defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) i fonitro diogelwch staff ac aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio meysydd parcio a weithredir gan y cyngor, yn gweithio yn adeiladau'r cyngor neu'n ymweld â nhw, ac mewn mannau agored cyhoeddus eraill. Mae Gweithredwyr CCTV mewn ystafelloedd canolog yn monitro sgriniau sydd wedi eu cysylltu â chamerâu a osodwyd mewn mannau strategol, i gadw golwg am unrhyw weithgareddau anghyfreithlon, amheus neu wrthgymdeithasol.

Amgylchedd Gwaith
Mae gweithredwyr CCTV yn eistedd o flaen wal o sgriniau arddangos. Fel arfer, disgwylir iddynt weithio mewn patrwm sifft dros gyfnod o 24 awr. Byddai patrwm nodweddiadol o bosibl yn cynnwys gweithio dwy sifft fore, dau brynhawn a dwy noson, ac wedyn dau ddiwrnod i ffwrdd. Gallent fod yn gweithio mewn timau bach neu ar eu pen eu hunain ac maent mewn cyswllt yn aml ar y ffôn neu'r radio gyda chydweithwyr, staff diogelwch a'r heddlu.  Mae swyddi rhan-amser ar gael mewn rhai cynghorau.

Gweithgareddau Dyddiol
Gall gweithredwyr CCTV fod yn gyfrifol am hyd at 15 o sgriniau, sy'n derbyn lluniau byw yn awtomatig o dros 100 o gamerâu gwyliadwriaeth. Maent yn monitro'r sgriniau'n gyson.  Maent hefyd yn gallu symud y camerâu eu hunain o'r ystafell reoli. Maent yn penderfynu pa fannau i ganolbwyntio arnynt ar adegau penodol. Er enghraifft, maent yn monitro meysydd parcio pan fyddant yn gwybod bod gweithwyr ar fin dod yno i gasglu'r arian o'r peiriannau tocynnau. Os oes angen i weithwyr y cyngor fynd i mewn i'w swyddfeydd y tu allan i oriau swyddfa, bydd y gweithredwyr CCTV yn eu gwylio wrth iddynt symud drwy'r adeilad. Yn ystod y nos, maent yn rheolaidd yn gwylio'r glanhawyr yn gweithio mewn adeiladau gwag. Os yw larymau yn canu a bod angen i'r gofalwyr fynd i mewn i adeiladau i ganfod y rheswm am hynny, byddant yn eu monitro.

Os bydd gweithredwyr CCTV yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus byddant yn parhau i'w monitro, ac os ydynt yn eu gweld yn dwyn neu'n fandaleiddio byddant yn cysylltu â'r staff diogelwch neu'r heddlu ar unwaith. Fe allai gweithredwyr CCTV weld ymddygiad amheus neu wrthgymdeithasol mewn rhan arall o'r dref wrth fonitro adeiladau'r cyngor. Os felly, byddant yn hysbysu'r heddlu.

Mae rhai gweithredwyr CCTV hefyd yn gweithio fel staff diogelwch i bobl sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain. Er enghraifft, os oes angen i weithiwr cymdeithasol ymweld â chleient yn ystod y nos mewn argyfwng, mae'n hysbysu'r gweithredwr gan roi'r cyfeiriad y bydd yn ymweld ag ef, a bydd yn ffonio ar gyfnodau rheolaidd y cytunwyd arnynt. Os oes mwy na 30 munud yn mynd heibio heb alwad ffôn, bydd y gweithredwr CCTV yn ceisio ffonio ffôn symudol y gweithiwr cymdeithasol - ac os nad oes ateb, bydd yn cysylltu â'r heddlu.  Maent yn cadw cofnod ysgrifenedig o'r holl ddigwyddiadau a welant ar y sgriniau ac fe allai fod angen iddynt roi'r wybodaeth hon i'r heddlu.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd angen i weithredwyr CCTV:

  • fod â golwg gwych; 
  • gallu canolbwyntio'n dda; 
  • gallu ymateb yn gyflym ac yn ddiffwdan i argyfwng; 
  • bod â sgiliau cyfathrebu da; 
  • deall pa mor bwysig yw cyfrinachedd - ni ddylent drafod yr hyn y maent yn ei weld ar y sgriniau gyda phobl o'r tu allan ar unrhyw adeg; 
  • gallu gweithio heb oruchwyliaeth.

Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad safonol. Mae rhai cynghorau'n gofyn am brofiad gwaith blaenorol mewn amgylchedd diogelwch, megis yr heddlu, y lluoedd arfog neu waith ditectif mewn siop.  Mae profiad o ddefnyddio offer cyfathrebu radio yn ddymunol. Mae rhai gweithredwyr CCTV wedi gweithio fel swyddogion meysydd parcio.
Rhaid i ymgeiswyr dderbyn archwiliad uwch gan yr heddlu fel arfer.  Bydd y cynghorau'n darparu'r holl hyfforddiant angenrheidiol. Bydd gweithredwyr CCTV o bosibl yn dilyn cyrsiau a weithredir gan Sefydliad Hyfforddi'r Diwydiant Diogelwch (SITO).

Cyfleoedd a gobeithion yn y dyfodol
Bydd cyngor bach o bosibl yn cyflogi tri neu bedwar o swyddogion monitro CCTV. Mewn cyngor mawr gallai fod deg neu fwy. Gall fod swyddi goruchwylio neu reoli ar gael, yn dibynnu ar hyfforddiant a phrofiad.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Diwydiant Prydain Cymdeithas Diogelwch www.bsia.co.uk
CCTV Cyhoeddus Rheolwyr Cymdeithas www.pcma.org.uk
Sgiliau ar gyfer diogelwch www.skillsforsecurity.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links