Cyflwyniad
 Diben y swydd hon yw helpu plant gyda nam ar y clyw i wneud y
gorau o'r cyfleon mae cwrícwlwm yr ysgol yn eu cynnig.  Mae
athrawon ymgynghorol yn cydweithio'n agos ag ysgolion a rhieni i
ofalu bod plant sy'n fyddar neu'n rhannol fyddar yn cael eu cynnwys
ym mhob gweithgaredd addysgol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Yn yr ysgol maen nhw'n gweithio gan amlaf, er y gallai fod angen
ymweld ag ysbyty, clywedegydd neu ganolfan gymunedol sy'n ymwneud
ag anghenion arbennig o bryd i'w gilydd.  Bydd athrawon
ymgynghorol yn mynd i gyfarfodydd rhanbarthol a gwladol lle gallai
fod angen aros dros nos a gweithio dros y Sul neu gyda'r nos. 
36 awr yw'r wythnos safonol.
Gweithgareddau beunyddiol
 Gallai fod angen gweithio mewn amryw leoedd bob dydd.  Ar y
cyfan, mae disgwyl i athrawon ymgynghorol wneud y canlynol:
- lleddfu meini tramgwydd trwy gynghori rhieni, disgyblion a
staff yr ysgol am drin a thrafod anableddau clyw;
 
- cydweithio â staff eraill yr awdurdod addysg lleol megis
arolygwyr, athrawon bro a staff y blynyddoedd cynnar ynglŷn â
llunio strategaethau cynnwys;
 
- cynnig hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghorol mewn ysgolion
uwchradd, cynradd ac arbennig ynglŷn â phob agwedd ar nam ar y
clyw.
 
Dyma rai dyletswyddau penodol:
- llunio a chynnal cyrsiau am roi'r cwrícwlwm ar gael i blant
byddar;
 
- helpu i ddatblygu rôl 'estyn braich';
 
- cynnal sesiynau y tu allan i oriau gwaith a hyfforddiant yn yr
ysgol yn ôl yr anghenion lleol;
 
- helpu i hyfforddi athrawon arbenigol;
 
- cynghori ysgolion am y ffordd orau o ddefnyddio eu hadnoddau
fel y bydd y cwrícwlwm i gyd ar gael i blant byddar;
 
- lledaenu'r arferion gorau trwy drefniadau lleol, rhanbarthol a
gwladol;
 
- helpu i lunio deunyddiau hyfforddi lleol megis llyfrynnau;
 
- cofnodi pob ymweliad a chwrs hyfforddi a llunio adroddiad am y
gwaith sydd wedi'i gyflawni yn yr ysgolion bob tymor.
 
Mae ymgynghorwyr anghenion addysg arbennig yn gweithio gyda
phroffesiynolion o sawl math - swyddogion cymunedol anghenion
arbennig, prifathrawon, athrawon, athrawon cynorthwyol,
llywodraethwyr, arolygwyr, cynghorwyr a swyddogion addysg yn
ogystal ag asiantaethau allanol megis therapyddion iaith a
lleferydd/clywedegwyr a mudiadau gwirfoddol megis Sefydliad
Brenhinol y Byddariaid a Chymdeithas y Plant Byddar.
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai angenrheidiol:
- medrau ystafell ddosbarth;
 
- medrau cyfathrebu ar lafar a thrwy lythyr;
 
- medrau trin a thrafod pobl, a'r gallu i ysgogi pobl;
 
- medrau dylanwadu/negodi.
 
At hynny, dylech chi allu:
- defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn hyderus;
 
- gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm; 
 
- gweithio'n effeithiol gyda rhieni;
 
- lledaenu'ch arbenigedd, eich medrau a'ch gwybodaeth ac annog
pobl eraill i wneud hynny, hefyd;
 
- meithrin partneriaethau effeithiol a bod yn un cryf eich
cymhelliant.
 
Meini prawf ymgeisio
 Rhaid ennill Statws Athro Cymwysedig trwy Adran Addysg a Medrau
San Steffan ac ymgymhwyso'n athro i blant byddar.  Mae angen
llawer o brofiad ynglŷn â phlant ac iddyn nhw nam ar y clyw, a
hynny fel a ganlyn:
- dysgu mewn ysgol gynradd neu uwchradd brif ffrwd;
 
- dyletswyddau teithiol naill ai'n rhan o wasanaeth cymorth neu
drefniadau estyn braich ysgol arbennig;
 
- arwain datblygiadau yn y cwrícwlwm mewn amryw bynciau gyda
nifer o'ch cydweithwyr;
 
- llunio, trefnu a chynnal hyfforddiant perthnasol yn yr
ysgol;
 
- llunio deunyddiau addysgu a dysgu;
 
- gwylio a gwerthuso ansawdd yr addysgu a chyfleu adborth i
athrawon.
 
Byddai disgwyl ichi wybod am yr ymchwil a'r deddfau diweddaraf
ynglŷn â phlant ac arnyn nhw anghenion arbennig.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Dyma faes penodol a phwysig.  Gallech chi gael eich
dyrchafu'n swyddog cymunedol dros anghenion addysgol arbennig neu'n
rheolwr gwasanaeth anghenion addysgol arbennig yr ysgolion.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru www.teachertrainingcymru.org
 Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru  www.gtcw.org.uk
 Gofrestrfa Hyfforddi Athrawon Graddedig  www.gttr.ac.uk
 Swyddi Addysg  www.eteach.com
 Gweithredu ar y Clyw Colli  www.actiononhearingloss.org.uk
 Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar   
www.ndcs.org.uk/family_support/support_in_your_area/wales
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.